Darganfyddwch syniadau a deunyddiau i ysbrydoli a dathlu Arweinwyr Hinsawdd yn eich ysgol a thu hwnt.
GWEITHGAREDDAU ARWEINWYR HINSAWDD I YSGOLION
Chwilio am syniadau am weithgareddau? Mae cymaint o ffyrdd hwyliog ac ysbrydoledig y gallwch chi helpu'ch myfyrwyr i ddod yn Arweinydd Hinsawdd. Isod ceir ambell syniad i danio'ch creadigrwydd.
Gwahoddir eich ysgol i ymuno ag Ysgolion yn erbyn Newid Hinsawdd
Yn dilyn COP26 ym mis Tachwedd, rydym yn gwahodd ysgolion i gymryd rhan mewn twrnamaint cyffrous ledled y wlad, Ysgolion yn erbyn Newid Hinsawdd, sy’n defnyddio hwyl pêl-droed i annog plant a theuluoedd i weithredu’n uniongyrchol ar yr hinsawdd, lle mai mynd Un Cam Gwyrdd yw’r unig ffordd i ennill. Bydd ysgolion yn dringo bwrdd cynghrair cenedlaethol yn seiliedig ar faint o nodau gwyrdd y gall cymuned eu hysgol eu sgorio, i weld pwy fydd yn dod i’r brig.
Mae’r twrnamaint yn cychwyn ar 10fed Ionawr a bydd yn rhedeg tan 20fed Chwefror. Gall ysgolion lawrlwytho pecyn o adnoddau cwricwlwm gan gynnwys 90 o gynlluniau gwersi sy’n ymdrin ag ystod o bynciau ar draws CA1, CA2 a CA3, deunyddiau hyrwyddo a chyfleoedd i gysylltu gweithgareddau yn y cartref â dysgu yn yr ysgol.
Gwasanaeth ysgol gwyrdd
Adeiladwch fomentwm gwyrdd ymhlith disgyblion ac athrawon gyda gwasanaeth diddorol sy’n dysgu am y materion ac yn grymuso gyda gweithredoedd hinsawdd positif.
Fe allech ymestyn y gwasanaeth gyda sesiwn grŵp ryngweithiol lle gall myfyrwyr daflu syniadau am ymddygiadau sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd.
Os ydych chi’n teimlo’n ysbrydoledig, beth am gynnal Wythnos Hinsawdd a gwahodd Arweinwyr Hinsawdd lleol a rhieni sydd â diddordeb i ddod i mewn a chynnal gwasanaethau gwadd?
Lawrlwythwch gyflwyniad a nodiadau siarad gwasanaeth COP26 a Newid Hinsawdd.
Wythnos Cerdded i’r Ysgol
Dangoswch i’ch cymuned pa mor unedig y mae eich Arweinwyr Hinsawdd ifanc yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy wahodd eich holl fyfyrwyr i gerdded i’r ysgol am wythnos gyfan.
Gwnewch y peth yn hwyl drwy greu ‘bws cerdded’ i’ch myfyrwyr ei gario.
Gallech hefyd roi cyfle i rieni fireinio eu sgiliau Arweinydd Hinsawdd a ‘gyrru’r’ bysys cerdded.
Os hoffech wneud hyn, cofiwch y bydd angen i chi greu e-bost i’w anfon at rieni gyda ffurflenni caniatâd.
Drama ysgol
Defnyddiwch eich creadigrwydd fel Arweinydd Hinsawdd i lwyfannu sioe amgylcheddol wych.
Gallai eich drama ysgol drafod themâu gwarchod yr amgylchedd a sut mae arweinwyr hinsawdd y gorffennol wedi cyfrannu at ffyrdd gwell o warchod yr amgylchedd.
Os ydych yn adnabod egin awdur, beth am greu sgript wreiddiol. Er enghraifft, fe allech chi fynd â’ch myfyrwyr ar siwrnai i gwrdd ag Arweinwyr Hinsawdd drwy’r oesoedd, fel Einstein, Leonardo a Boyan Slat.
Gall disgyblion gael eu hannog i ailddefnyddio deunyddiau a dillad ar gyfer y gwisgoedd a’r propiau. Os hoffech lwyfannu drama, bydd angen i chi hefyd feddwl am syniadau am wisgoedd, llwyfannu a recriwtio cast.
DEUNYDDIAU ARWEINWYR HINSAWDD
Byddwch yn greadigol drwy ddefnyddio'r deunydd hyn, gan gynnwys ysgrifennu enghreifftiau a negeseuon sy’n barod i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw wedi'u cynllunio i'ch helpu i rannu newyddion ac i ddathlu gweithredoedd hinsawdd positif eich ysgol.
Sut i ddefnyddio deunyddiau Arweinwyr Hinsawdd
Lawrlwythwch y canllaw isod ‘Sut i ddefnyddio deunyddiau Arweinwyr Hinsawdd’ am gyfarwyddiadau syml cam-wrth-gam ar sut i ddefnyddio ein deunyddiau Arweinwyr Hinsawdd ac i egluro COP26 i eraill.
Carwsél cyfryngau cymdeithasol
Rhannwch y graffeg hyn ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r fformat ‘carwsél’ (post â sawl llun) a helpwch i adrodd stori COP26. Angen help i’w defnyddio? Cewch gyfarwyddiadau syml cam-wrth-gam yn ogystal ag ysbrydoliaeth ar gyfer y penawdau yn y ddogfen ‘Sut i ddefnyddio deunyddiau Arweinwyr Hinsawdd’ uchod.
Carwsél 1: Beth yw COP26?
Mae’r carwsél hwnyn esboniad syml o beth yw COP26.
Carwsél 2: Dathlu gweithredu hinsawdd
Mae’r carwsélhwnyn alwad i weithredu cyn COP26. Helpwch i ddathlu pobl ym mhobman sy’n gwneud eu rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Cefndiroedd Zoom
Defnyddiwch y cefndiroedd COP26 sydd wedi’u brandio i ddangos cefnogaeth eich sefydliad ar gyfer COP26 yn ystod eich digwyddiadau ar-lein.
Sticeri Instagram
Chwiliwch am ein sticeri COP26 hwyliog yn eich straeon Instagram tra’n rhannu eich gweithredoedd amgylcheddol positif. Darllenwch ‘Sut i ddefnyddio deunyddiau Arweinwyr Hinsawdd’ uchod i gael gwybod sut.
MWY O ADNODDAU HINSAWDD
Yr adnoddau hinsawdd gorau o bob rhan o'r rhyngrwyd, gan gwmpasu popeth o ddysgu myfyrwyr o bob oed am newid hinsawdd i sut gallwch baratoi eich ysgol gyfan.*
“Ein Hinsawdd Ein Dyfodol” wedi’i greu gan WWF a phartneriaid
Bydd y pecyn hwn ar gyfer ysgolion yn canolbwyntio ar COP26, gan godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Uwchgynhadledd a newid hinsawdd ymhlith pobl ifanc ledled y DU. Bydd y pecyn hwn hefyd yn cynnwys adnoddau i ysgolion gynnal Gweithdai Bach COP a Gweithdai Cynllunio Gweithredu’n Lleol. Bydd y Gweithdai Bach yn cynnwys gwers ryngweithiol hwyliog wedi’i seilio ar chwarae rôl sy’n cyflwyno’r COP26 a bydd yn arwain at ‘weledigaeth o’r dyfodol’ a grëir gan fyfyrwyr. Bydd y Gweithdai Cynllunio Gweithredu’n Lleol yn arwain at ‘Faniffesto Camau i Newid’ i bob ysgol, gan fanylu ar addewidion gweithredu hinsawdd wrth bob myfyriwr.
Bathodyn Gwyrdd Blue Peter
Dewch yn Arwr Hinsawdd Blue Peter drwy helpu’r amgylchedd a chael bathodyn Gwyrdd. Lanlwythwch eich lluniau a’ch gwaith celf i ddangos faint rydych chi’n poeni am natur, yr amgylchedd a’ch planed. Darllenwch sut i wneud cais am Fathodyn Gwyrdd!
LEGO – Gweithdy Cyfarwyddiadau Adeiladu Byd Gwell
Mae’r Grŵp LEGO yn casglu syniadau plant i greu set o gyfarwyddiadau adeiladu LEGO ar gyfer gwell planed er mwyn eu rhoi i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau. Mae pecyn gweithdy Cyfarwyddiadau Adeiladu Byd Gwell yn darparu pecyn gwersi i ysgolion, cymunedau a gwersylloedd haf i alluogi plant i gynhyrchu eu tri chyfarwyddyd i arweinwyr y byd amddiffyn y blaned yn well rhag newid hinsawdd.
Cystadleuaeth MoneySense NatWest
Mae rhaglen MoneySense NatWest yn cynnwys adnoddau amrywiol i helpu plant i ddysgu am y cysylltiad rhwng arbed arian ac arbed y blaned. Mewn partneriaeth â Top Trumps, mae cystadleuaeth yr Arbedwyr Hinsawdd yn herio disgyblion ysgolion cynradd i ddylunio cardiau Top Trumps gan ddangos camau y gallwn eu cymryd i helpu i achub y blaned, gyda dyluniadau buddugol yn cael eu dewis ar gyfer dec unigryw o gardiau ynghyd â’r cyfle i athrawon ennill arian. ar gyfer prosiectau amgylcheddol yn eu hysgol. Hefyd yn rhan o MoneySense, mae “Island Saver” yn gêm fideo hwyliog, rhad ac am ddim, maint llawn sy’n dysgu plant am arian wrth helpu i lanhau’r amgylchedd.
Y Swyddfa Dywydd
Mae’r tywydd a’r hinsawdd yn effeithio ar bopeth, o’r ffordd rydyn ni’n byw, i’r hyn rydyn ni’n ei fwyta, i’n diogelwch personol. Bydd y Swyddfa Dywydd i Ysgolion yn helpu pobl ifanc i ddeall effeithiau pellgyrhaeddol y tywydd a newid hinsawdd yn lleol ac yn fyd-eang, i bobl, llefydd a busnesau.
Siarad â phobl ifanc am yr hinsawdd
Dewch o hyd i arweiniad meddylgar ar sut i siarad â phobl ifanc am newid hinsawdd yn National Geographic, World’s Largest Lesson, neuThought Box.
Gwneud eich ysgol gyfan yn barod
- Dysgwch fwy ynglŷn â sut i ddod yn Eco-Ysgol neu’n Barod ar gyfer Hinsawdd
- Dysgwch fwy ynglŷn â sut gall eich ysgol gynhyrchu ei ynni ei hun gyda Chydweithfa Ynni Ysgolion neu Solar i Ysgolion
- Beth am adeiladu wal fyw? Edrychwch ar wefan ANS GLOBAL
Rhaglenni ar draws y sefydliad i fyfyrwyr ac addysgwyr
- Dewch yn ysgol cadw gwenyn gyda Chymdeithas Gwenynwyr Prydain
- Ceisiwch annog plant i fod yn agos at fyd natur gydag Ysgolion sy’n Gyfeillgar i Natur
- Cysylltwch â’r Prosiect Ysgolion Gwyrdd i ddenu pobl ifanc i ymddiddori mewn prosiectau amgylcheddol
Adnoddau a phrosiectau bach ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac Ysgolion Cynradd Is
- Ysbrydolwch blant iau i ddysgu am y byd drwy gemau, fideos ac adnoddau dysgu gydag Earthcubs
- Gall plant iau gymryd rhan mewn prosiect celf i ddangos eu hoffter o fyd natur gyda We Love Our Planet
- Dysgwch ddisgyblion iau i archwilio byd natur a bywyd gwyllt gydag adnoddau Wildlife Watch
Adnoddau a phrosiectau bach ar gyfer Ysgolion Cynradd Uwch ac Ysgolion Uwchradd
- Defnyddiwch adnoddau’r World’s Largest Lesson i gyflwyno newid hinsawdd i fyfyrwyr
- Cyflwynwch weithredu amgylcheddol i’r ystafell ddosbarth gyda Transform our World
- Gallwch gael mynediad at ganllawiau hinsawdd ac adnoddau i’r ystafell ddosbarth yn Our Planet
- Cyflwynwch weithgareddau ysbrydoledig i’ch ystafell ddosbarth gyda her ddigidol Do your bit
- Defnyddiwch adnoddau dysgu ar-lein y Parciau Brenhinol, Kew Garden, neu Backyard Nature i ddysgu myfyrwyr am fyd natur
- Yn chwilio am syniadau am wers awyr agored? Edrychwch ar adnoddau Outdoor Classroom Day
- Defnyddiwch adnoddau rhad ac am ddim WWF UK sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i helpu disgyblion archwilio materion amgylcheddol mewn ffordd apelgar ac ysgogol
- Edrychwch ar 30 ‘her’ ar-lein Earth School i fyfyrwyr ledled y byd i ddathlu, archwilio a chysylltu â byd natur
Darnau animeiddio hinsawdd gyda Kristen Bell (ysgrifennwyd gan Myles Allen, David Biello a George Zaidan):
- Pam mae’r byd yn cynhesu?
- Beth yw sero-net?
- Pam mae 1.5 gradd yn gymaint o beth?
- Lle mae’r holl garbon rydyn ni’n ei ryddhau yn mynd?
- Pam gweithredu nawr?
Cynnwys gan TEDEd
- Allwn ni greu’r fferm “berffaith”? – Animeiddiad gyda Brent Loken (Map Trywydd Esbonyddol gan Awdur y Bennod ar Fwyd
- Cyflwr yr argyfwng hinsawdd – Animeiddiad gyda theclyn Olrhain Hinsawdd
- Cyfres cynllunio ar gyfer sero – cyfres fideo 7-rhan sy’n seiliedig ar lyfr newydd Bill Gates; y darnau animeiddio sydd wedi’u rhyddhau hyd yma:
- Myth y broga berwedig (yn ymwneud â sialensiau sero-net)
Cyfres Earth School – lansiwyd mewn partneriaeth ag UNEP, sy’n cynnwys rhywfaint o gynnwys gwreiddiol TEDEd ar hinsawdd a’r amgylchedd
Arall
- Gyda’n gilydd, bydd 57 miliwn o Sgowtiaid yn cymryd camau ymarferol i leihau newid hinsawdd ac yn annog arweinwyr y byd i ymrwymo i dargedau a pholisïau uchelgeisiol, a gallwch chi ymuno hefyd. Mae #PromiseToThePlanet yn ymgyrch gweithredu cymdeithasol, amgylcheddol fyd-eang, sy’n agored i bob person ifanc ac oedolyn, p’un a ydyn nhw’n ymwneud â’r Sgowtiaid neu beidio
- Gyda’n gilydd am Ddyfodol Hinsawdd Tecach – mae Sustainability First, mewn partneriaeth â’r Grid Cenedlaethol, wedi datblygu cyfres o ddeunyddiau a gweithgareddau gweithdy ar gynaliadwyedd a newid hinsawdd i ysbrydoli, addysgu ac ymgysylltu â disgyblion.
- Learning for Sustainability (LfS) – Agwedd at fywyd a dysgu sy’n galluogi dysgwyr, addysgwyr, ysgolion a’u cymunedau ehangach yn yr Alban i adeiladu cymdeithas gymdeithasol gyfiawn, gynaliadwy a theg.
- Our World Our Impact – Lleoliad y COP26, Canolfan Wyddoniaeth Glasgow, sy’n rhannu digwyddiadau rhyngweithiol ar-lein, trafodaethau, fideos, sialensiau a llawer mwy.

“Y plant ar draws yr holl ysgolion yw lleisiau’r dyfodol. Nhw yw’r rhai sy’n mynd i fod yn gwneud gwahaniaeth.”
Simon Gilbert-Barnham
Pennaeth, Ormiston Venture Academy
*Sylwch, nid yw’r adnoddau uchod nac unrhyw ddeunydd cysylltiedig wedi’u cynhyrchu gan COP26 ac nid yw eu hansawdd wedi’i wirio ganddyn nhw. Dylai ysgolion wastad asesu adnoddau a gynhyrchir gan asiantaethau allanol yn ofalus i sicrhau eu bod yn ffeithiol gywir, yn briodol i’w hoedran, ac yn unol â dyletswyddau cyfreithiol eich ysgol mewn perthynas â didueddrwydd gwleidyddol.